Gweledigaeth

Mae Beicio Mynydd Dyfi MTB yn Gwmni Budd Cymunedol a ffurfiwyd gan wirfoddolwyr i amddiffyn, hyrwyddo a datblygu beicio mynydd a llwybrau traws gwald ar gyfer beicio yng Nghoedwig Dyfi a’r ardal gyfagos. Ein cenhadaeth yw i hybu buddsoddiad hir-dymor yng Nghoedwig Dyfi, er mwyn datblygu  rhwydwaith o lwybrau beicio mynydd a traws gwlad ymhlith y gorau yn y DU, tra’n cynnal naws Coedwig Dyfi fel porth i’r gwylltir.

Mae Coedwig Dyfi wedi bod yn gartref i lwybrau ers i feicwyr modur traws gwlad ddechrau defnyddio’r tir yn y 1960au, ac ers ddyfodiad beicio mynydd, mae beicwyr lleol wedi defnyddio’r llwybrau answyddogol hyn. Dechreuodd y gwaith o greu llwybrau penodol ar gyfer beicio mynydd 20 mlynedd yn ôl, gan ddefnyddio hawliau cyhoeddus i’r de o Machynlleth i greu llwybrau Mach 1, 2 a 3, ac yn 2005 ehangwyd ar hyn gydag adeiladiad llwybr enwog ClimachX yng Ngheinws/Esgairgeiliog.

Erbyn hyn, rydym yn gweithio gyda pherchnogion tir Coedwig Dyfi, Adnoddau Naturiol Cymru (CNC), i greu mynediad agored i Goedwig Dyfi ac arloesi arddull newydd o rwydwaith llwybrau y tu hwnt i’r llwybrau a farciwyd ymlaen llaw mewn canolfannau llwybrau presennol sydd yn gyfarwydd i ni. Gyda llwybr y ClimachX wrth y canolbwynt, bydd y llwybrau newydd yn canghennu i ffwrdd i gynnig llwybrau mwy heriol i’r beiciwr y gellir eu reidio’n amrywiol. Bydd hyn yn eu gwneud yn ddelfrydol, nid yn unig ar gyfer y beiciwr llwybr profiadol sy’n chwilio am daith hirach ac i archwilio’r ardal ehangach, ond hefyd i’r beicwyr hynny sy’n canolbwyntio mwy ar Enduro ac sydd am gael sesiwn ar rhan o lwybr neu greu taith hyfforddi heriol gan ddefnyddio’r llwybrau anoddaf yn y goedwig. Dyma ein gweledigaeth:

Datblygu:

Partneriaethau cryf gyda CNC, tirfeddianwyr a reidwyr lleol.

Dull newydd o reoli “llwybrau gwyllt” sydd eisoes yn bodoli er mwyn budd CNC a’r gymuned beicio mynydd.

Hunaniaeth ar gyfer y llwybrau a’r ardal leol.

Amddiffyn:

Y rhwydwaith llwybrau rhag gwympo coed drwy gytuno ar raglen o ail-osod gyda CNC.

Yr amgylchedd naturiol drwy gydweithio â’r tirfeiddianwr i greu a chynnal llwybrau cynnaliadwy, a gyda sefydliadau megis Trash Free Trails, i annog reidwyr i ofalu am yr adnoddau naturiol maent yn elwa arnynt.

Hyrwyddo:

Y Dyfi fel cyrchfan beicio mynydd o’r safon uchaf.

Y goedwig fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau sydd am ddefnyddio’r llwybrau gorau yn y DU.