Llwybrau

ClimachX

Mae llwybr ClimachX wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi, wyth cilomedr i’r gogledd o Machynlleth ar yr A487. Fe’i hadeiladwyd yn 2005 ac mae’n llwybr naturiol sy’n llifo wedi’i osod ar greigwely llechi yr ardal. Fel un o’r llwybrau beicio mynydd pwrpasol cynharach yn y DU, mae’n cadw mwy o naws naturiol na llawer o lwybrau o waith dyn.

Mae’r llwybr llawn yn daith gron 15 km, gyda naw cilomedr o llwybr sengl wedi’i adeiladu gyda chywasgiadau a thripiau, gollwng slabiau creigiau a rhai troadau hyfryd sy’n llifo. Mae’r disgyniad olaf yn un o’r rhai hiraf yng Nghymru ac mae’n cynnwys neidiau creigiog a dilyniant olaf o wyth berm enfawr yn dilyn yn gyflym ar ôl ei gilydd. Tarwch nhw yn ddigon uchel ac yn ddigon cyflym ac maen nhw’n reidio’n dda iawn, ond peidiwch ag edrych i lawr!

Lawrlwythwch y ffeil .gpx yma

Lawrlwythwch wybodaeth llawn y llwybr yma 

MACH 1, 2 A 3

Teithiau beicio mynydd clasurol yw llwybrau Mach, â chefn gwlad a nenau eang yn nodweddion amlwg. Ardull o reidio a ddaeth yn llai poblogaidd â ffrwydriad canolfannau llwybrau beicio mynydd ar draws y DU, ond mae’r math yma o lwybr yn cael ei atgyfodi â’r cynnydd mewn defnydd beiciau graean a’r chwant am antur.

Rydym ni wedi adfywio’r llwybrau gydag arwyddion newydd, felly gallwch ddilyn logo Beicio Mynydd Dyfi MTB ar gyfer anturiaethau o amgylch ochr deheuol y Dyfi.

Mach 1

Mae hwn yn lwybr cyflym yn hytrach na thechnegol, gan fynd â chi fyny’n serth ac i lawr yn gyflym gyda golygfeydd epig ar hyd y ffordd. Mae’r llwybr hwn yn gychwyn gwych i weld beth sydd gan y bryniau i’r de o Fachynlleth i’w gynnig. Mae’r daith yn cychwyn ar rhai o’r lonydd cefn gwlad tawela, cyn dringo i fwynhau golygfeydd godidog a llwybrau traws gwlad go iawn. Wrth fynd yn ôl i lawr, mae sawl disgyniad cyflym iawn fydd yn codi gwên ar ôl gwên wrth reidio a fydd o fewn gallu y rhanfwyaf o reidwyr.

Lawrlwythwch y ffeil .gpx yma

Lawrlwythwch wybodaeth llawn y llwybr yma

Mach 2

Y llwybr beicio mynydd traws gwlad clasurol: Mae’r llwybr hwn yn cynnig cymysgedd perffaith o reidio traws gwlad, y dringfeydd beichus sy’n eich gwobrwyo â golygfeydd epig am eich ymrech ar hyd y daith. Byddwch yn dilyn llwybrau ar draws tir fferm agored, gan gynnwys rhannau o Lwybr Glyndŵr, ffyrdd graean, untrac tynn a rhannau technegol i gadw’ch ddiddordeb. Mae’r holl ddringo hefyd yn golygu disgyniadau hir hefyd, â digon i gadwch brêciau’n gynnes â’ch pwysau yn ôl.

Lawrlwythwch y ffeil .gpx yma

Lawrlwythwch wybodaeth llawn y llwybr yma

Mach 3

Yr un mawr: Disgwylch ddrigfeydd hir a disgyniadau heriol i ladd eich coesau a phrofi’ch sgiliau – mae hefyd yn teimlo’n llawer hirach na mae’r pellter o 34 km yn ei awfrymu. Mae’r cychwyn yn rhannu rhai o lwybrau Mach 2, cyn mynd i’r de trwy’r goedwig ac ar draws rhosdiroedd, cyn dychwelyd lawr llwybrau hyfryd disgynfeydd dros laswellt. Yr uchafbwynt wrth ddychwelyd yw’r ‘Cafn’, disgyniad serth a charregog sy’n sialens dechnegol.

Lawrlwythwch y ffeil .gpx here

Lawrlwythwch wybodaeth llawn y llwybr here