Prosiect Coedwig Dyfi

Mae Prosiect Coedwig Dyfi yn ganolog i weledigaeth Beicio Mynydd Dyfi MTB. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bydd y prosiect yn golygu y bydd y llwybrau hanesyddol sydd eisoes yn bodoli yn cael eu cydnabod a’u hamddiffyn yn gyfreithiol. I gychwyn, bydd angen cadarnhau bod y llwybrau yn ateb gofynion safonau llwybrau CNC. Felly bydd angen gwneud buddsoddiad cychwynnol i godi’r llwybrau rhain i safonau diogelwch modern a gosod arwyddion a rhwystrau lle bod angen. Bydd hefyd angen cadarnhau ein bod yn gallu fforddio cynnal  ac amddiffyn y llwybrau wrth i ni symud ymlaen: Wrth i Goedwig y Dyfi ddod yn fwy poblogaidd, bydd angen cadarnhau fod y llwybrau yn gallu gwrthsefyll y cynnydd mewn traffig.

Mae’r prosiect wedi cael ei gynllunio i’w gwblhau mewn tri cam: 

Cam 1 (Pecyn Ymestyn Glasurol): llwybrau sydd wedi eu lleoli i’r ardal orllewinol o’r goedwig a a all droi oddi ar llwybr ClimachX, gan ei ddefnyddio fel canolbwynt.

Cam 2 (Pecyn Ymestyn Serth a Tech): ym mhen dwyreiniol y goedwig ger  Aberangell lle mae’r llwybrau mwyaf serth a technegol i’w canfod.

Cam 3 (Pecyn Ymestyn Mwynfeydd a Chwareli): y rhan lleiaf adnabyddus i’r rhan gogleddol o’r goedwig o amgylch Aberllefenni.

Mae hon yn brosiect hir-dymor, fawr-effaith fydd yn darparu buddion tu hwnt i ond llwybrau o safon uchel ar gyfer beicwyr mynydd profiadol. Bydd y prosiect hefyd yn caniatáu i genhedlaeth gyfan o reidwyr fwynhau’r llwybrau hanesyddol, sydd wedi bodoli yn y goedwig ers dros hanner canrif, yn gyfreithlon. 

Y tu hwnt i’r buddsoddiad cychwynnol sydd ei angen i foderneiddio’r llwybrau, ac er mwyn cadarnhau bod ein llwybrau’n parhau i gynnig safon uchel o reidio, bydd angen i ni gyflenwi rhaglen o gynnal a chadw rheoliadd sydd wedi ei dargedu’n dda. O ganlyniad, rydym yn chwilio am bartner, neu barneriaid, a all ynteu: darparu cefnogaeth ariannol sylweddol, neu darparu arbennigedd adeiladu, offer a deunydd. Rhagwelwn y bydd y prosiect yn denu diddordeb sylweddol gan y cyfryngau lleol a rhanarthol, cyfryngau arbennigol beicio ac awyr agored, yn ogystal â sylw ar draws y cyfryngau cymdeithasol, ac y bydd ein partneriad yn elwa o hyn yn eu tro.

Mae hanes y goedwig yn ogystal a tri cam y prosiect, yn galluogi i stori naturiol esblygu, gan gadarnhau y bydd ein partneriaid ym mlaenllaw a chanol llygad ar gyfer ystod y prosiect dros nifer o flynyddoedd. Os oes diddorbed â chi mewn partneru â Beicio Mynydd Dyfi MTB yn y prosiect cyffrous hwn, yna cysylltwch â ni er mwyn trafod.