Prosiect Rheoli

Amcan y Prosiect Rheoli yw galluogi’r cwmni i ddod yn hunan-gynhaliadwy yn hytrach na bod yn hollol ddibynnol ar wirfoddolwyr. Er mwyn rheoli’r rhaglen hir-dymor a parhaol o gynnal llwybrau yn effeithiol, fel y bydd ei angen i gadarnhau bod y llwybrau’n cyrraedd safonnau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn enwedig pan maent yn delio â chynnydd mewn traffig, ac er mwyn i ni allu cyflawni ar brosiectau eraill y cwmni, rydym yn anelu at gyflogi Rheolwr Prosiect fydd yn ymroddedig i orychwyio rhediad y prosiect o ddydd i ddydd, gan ddarparu dull mwy proffesiynol a galluogi i wirfoddolwyr gamu yn ôl o redeg y cwmni. 

Mae hwn yn brosiect sylweddol hir-dymor a fydd yn cyflogi rheolwr prosiect am ddeuddydd (15 awr) yr wythnos ar gytundeb o ddwy flynedd er mwyn cyflawni gweledigaeth y cwmni. Felly, rydym yn chwilio am fuddsoddiad o tua £20,000 y flwyddyn am ddwy flynedd. Bydd y prosiect yn siwtio sefydliad sydd am gweithredu neu ehangu rhaglen Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol yn arbennig. Fel Cwmni Diddordeb y Gymdeithas nid-er-elw, mae Beicio Mynydd Dyfi MTB yn ddelfrydol ar gyfer y math yma o fuddsoddiant. Mae gweledigaeth y cwmni a’r prosiectau sydd wedi eu cynllunio yn golygu mai prosiect hir-dymor fydd hwn, yn darparu buddion y tu hwnt i ond darparu llwybrau beicio mynydd yng Nghoedwig Dyfi. Bydd y prosiect yn galluogi i genhedlaeth gyfan o bobl yn Nyffryn Dyfi i allu elwa o fuddion iechyd corfforol a meddyliol sydd i’w cael o feicio mewn tirwedd agored gwyllt, tra hefyd yn dod a twristiaeth cynhaliadwy i ardal o amddifadiad cymdeithasol ac yn  cynnig cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn y cymunedau lleol.