Prosiectau

Prosiect Coedwig Dyfi

Mae Prosiect Coedwig Dyfi yn ganolog i weledigaeth Beicio Mynydd Dyfi MTB. Gan weithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bydd y prosiect yn golygu y bydd y llwybrau hanesyddol sydd eisoes yn bodoli yn cael eu cydnabod a’u hamddiffyn yn gyfreithiol. I gychwyn, bydd angen cadarnhau bod y llwybrau yn ateb gofynion safonau llwybrau CNC. Felly bydd angen gwneud buddsoddiad cychwynnol i godi’r llwybrau rhain i safonau diogelwch modern a gosod arwyddion a rhwystrau lle bod angen. Bydd hefyd angen cadarnhau ein bod yn gallu fforddio cynnal  ac amddiffyn y llwybrau wrth i ni symud ymlaen: Wrth i Goedwig y Dyfi ddod yn fwy poblogaidd, bydd angen cadarnhau fod y llwybrau yn gallu gwrthsefyll y cynnydd mewn traffig.

Mae’r prosiect wedi cael ei gynllunio i’w gwblhau mewn tri cam: i gychwyn, y llwybrau hynny sydd wedi eu lleoli i’r ardal orllewinol o’r goedwig a a all droi oddi ar llwybr ClimachX, gan ei ddefnyddio fel canolbwynt;  yna ym mhen dwyreiniol y goedwig ger  Aberangell lle mae’r llwybrau mwyaf serth a technegol i’w canfod; ac yn olaf, y rhan lleiaf adnabyddus i’r rhan gogleddol o’r goedwig o amgylch Aberllefenni.

Darllenwch fwy…

Prosiect Rheoli

Mae’r Ymgyrch Rheoli am alluogi’r cwmni i ddod yn hunan-gynhaliadwy yn hytrach na bod yn hollol ddibynnol ar wirfoddolwyr. Er mwyn cael llwybrau yn y goedwig, mae’n ofynnol gan y tirfeddianwr eu bod yn cael eu cynnal a’u rheoli i safon uchel. Mae angen llawer o amser i wneud hyn, drwy drefnnu a hybu dyddiau palu, sicrhau iechyd a diogelwch y rhai sy’n gwirfoddoli, yn ogystal a gweinyddiaeth cwmni cymunedol o ddydd i ddydd. 

Yn ddelfrydol byddai nawdd ar gael i dalu Rheolwr i ddarparu’r gwasanaethau rheiny, ac i hyrwyddo’r llwybrau mae Beicio Mynydd Dyfi MTB yn eu rheoli i’r gymuned beicio mynydd ehangach.

Darllenwch fwy…

Prosiect Llwybr Glas (Llif)

Mae llwybr “llif” yn gyflwyniad eithaf newydd i’r canolfannau beicio mynydd penodedig. Maent fel arfer yn lwybrau llawn neidiau a chorneli cantel â wyneb hollol esmwyth y gall reidwyr o bron unrhyw allu ei fwynhau, o ddechreuwyr llwyr i rhacswyr profiadol. Mae llwybr llif yn galluogi i reidwyr mwy profiadol ffeindio amryw o linellau i lawr, neu dros y llwybr.

Nid yw’r rhwydwaith o lwybrau sydd eisoes yn bodoli yn y Dyfi yn galluogi cyrchiant hawdd i’r gamp, nid ar gyfer plant na rheiny sy’n newydd i feicio mynydd. Byddai darpariaeth llwybr “llif” glas wedi ei raddio yn galluogi i reidwyr a amrywiaeth fawr o allu i fwynhau reidio yng Nghoedwig Dyfi ac i annog fwy o bobl leol i fentro ar y llwybrau. 

Darllenwch fwy…

Prosiect Llwybr Mach 4

Prosiect i ychwanegu llwybr arall i’r llwybrau sydd wedu eu arwyddnodi i’r de o Ddyffryn Dyfi ydi Mach 4. 

Bydd y llwybr hwn yn mynd â reidwyr ar daith o Fynyddoedd Cambria am daith sawl awr o dirwedd a golygfeydd epig.

Bydd costau’r prosiect yn ymestyn i ddarpraru arwyddion ac arwyddbyst yn ogystal a mapio, creu ffeiliau gpx a gweinyddu. Mae’r prosiect hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhainy sydd yn y sector llety gwyliau i bartneru â ni i ddarparu antur newydd cyffrous.

Darllenwch fwy…

Prosiect Llwybrau Cemm

Mae’r Prosiect Llwybrau Cemm i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau a fydd yn cychwyn yng Nghemmaes, pentref bach tua hanner ffordd ar hyd Dyffryn Dyfi.

Byddai’r llwybrau rhain yn debyg o ran arddull i lwybrau Mach, ac mae’r ymgyrch hwn i ymdrin â chostau arwyddion, mapio, a chreu ffeiliau gpx yn ogystal a gweinyddu. 

Mae hwn yn brosiect cymharol rhad a rhwydd. Mae Beicio Mynydd Dyfi MTB yn chwilio am bartner fydd yn elwa un ai o ‘r cynnydd mewn twristiaeth a fydd y prosiect yn ei ennyn, neu o’r sylw fydd i’w gael yn y cyfryngau beicio ac awyr agored ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Darllenwch fwy…