Dychweliad y Mach

Llwybrau Mach 1, 2 a 3 oedd y llwybrau beicio mynydd gwreiddiol yn Nyffryn Dyfi. Roeddent yn darparu teithiau wedi eu arwydd nodi o amryw o hyd a lefel technegol ar hyd llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus, ar gyfer y byd beicio mynydd eginol oedd yn cylchdroi ar fforio ac antur. Gan ddibynnu ar wirfoddolwyr i’w cynnal, dros gyfnod o 20 mlynedd, doedd y llwybrau Mach ddim wedi dirywio fel petai, ond roedd yr arwydd nodion wedi mynd ar goll, yn debyg i lwybrau a’u ddefnyddir llai yn ystod yr haf, diflanodd eu presenoldeb ar-lein ymysg y tyfiant newydd.

Pan sefydlwyd Beicio Mynydd Dyfi MTB, gydag amser wedi pasio, safai’r llwybrau rhain yn anghof. Roedd y llwybrau wedi cael eu gadael ar ôl yn llythrennol ac yn ffigurol, gyda arwyddion coll a thechnoleg yn esblygu. Ond mae pasiad amser a’r tymhorau wedi gwneud y llwybrau rhain yn berthnasol unwaith eto.

Dros y dewgawd diwethaf, mae twf mawr wedi bod mewn beicbacio ac antur-feicio, ynghŷd ag esblygiad mewn technoleg beiciau ac offer beicio, o gilfach yn y diwydiant beiciau hyd heddiw, lle mae popeth yn arwain ar feicio graean a llwybrau graean. Efallai fod gan feiciau graean heddiw farrau cyrliog ac yn amheus o debyg i feiciau ffordd. Ond, edrychwch yn agosach ac fe welwch fod y gêrau a’r teiars ddim yn annhebyg i’r beiciau mynydd a oedd yn cael eu reidio dros Fynyddoedd Cambria 20 mlynedd yn ôl.

Ac felly, mae’r llwybrau wedi cael eu hatgyfodi, mapiau newydd wedi cael eu paratoi, yr arwyddion wedi eu ailosod a’r brandio yn siarp. Mae’n hen bryd ar gyfer Dychweliad y Mach.