Adnewyddu Dicko's
Yn 2019, fel canlyniad o waith coedwigaeth, dinistrwyd llwybr enwog Dicko’s. Roedd hwn yn lwybr a grëwyd gan feicwyr modur traws gwlad wrth iddyn reidio yn yr ardal yn ystod y 60au, ond gan ei fod yn lwybr answyddogol, doedd dim llawer a ellir ei wneud i atal difrod, nac adfer y llwybr.
Fe welodd Beicio Mynydd Dyfi Dyfi MTB, a oedd newydd ei ffurfio, hwn fel cyfle i weithio gyda’r tirfeddianwr, Cyfoeth Naturil Cymru (CNC), ac i droi Dicko’s yn arddangosfa o sut allai cwmni cymunedol weithio, nid yn unig i reoli llwybr hamdden, ond i ddatblygu cyrchiant gwell i’r goedwig ac er fudd y gymuned leol.
Daeth Beicio Mynydd Dyfi MTB i gytundeb gyda CNC ar gyfer ailosod Dicko’s. Fel rhan o’u gwaith clirio yn dilyn cwympo’r coed, cliriodd CNC goridor ar hyd trywydd yr hen lwybr. Ailgrëodd Beicio Mynydd Dyfi MTB Dicko’s, gyda chymorth andros o hael gan Dan Atherton a’i griw adeiladu llwybrau Dyfi Bike Park, gan roi naws cyfoes i’r llwybr tra’n cadw at ysbryd a thrywydd y llwybr gwreiddiol.