Amdanon Ni

GWELEDIGAETH

Mae Beicio Mynydd Dyfi MTB yn Gwmni Budd Cymunedol a ffurfiwyd gan wirfoddolwyr i amddiffyn, hyrwyddo a datblygu beicio mynydd a llwybrau traws gwald ar gyfer beicio yng Nghoedwig Dyfi a’r ardal gyfagos. Ein cenhadaeth yw i hybu buddsoddiad hir-dymor yng Nghoedwig Dyfi, er mwyn datblygu  rhwydwaith o lwybrau beicio mynydd a traws gwlad ymhlith y gorau yn y DU, tra’n cynnal naws Coedwig Dyfi fel porth i’r gwylltir.

Darllenwch fwy…

LLWYBRAU

Llwybr naturiol sy’n llifo, 15km o hyd, ydy ClimachX, wedi ei leoli yng Nghoedwig Dyfi Forest, wyth cilomedr i’r gogledd o Fachynlleth, tref farchnad fechain yng nghanolbarth Cymru; tra bod y llwybrau hirach Mach 1, 2 a 3 yn deithiau beicio mynydd clasurol i’w canfod i’r de o’r dref.

Darllenwch fwy…

NEWYDDION

HAF 2021

Yn ystod penwythnos olaf Gorffennaf, byddwn yn croesawu Grinduro Wales i Goedwig Dyfi, cystadleuaeth sy’n cyfuno elfennau gorau enduro beicio mynydd a ras ffordd mewn arddull reidio graean.

Newydd ei ddatgan ar gyfer Mehefin 2022, mae’r Cymru MTB Classic, rhan o’r gyfres Epic enwog a fydd hefyd yn defnyddio rhai o’r llwybrau yng Nghoedwig Dyfi.

GWANWYN 2021

Wrth i Gymru dod allan o’r clo rydym yn gallu croesawu ymwelwyr i’r Dyfi unwaith eto, rydym wedi gorffen gosod yr arwyddion newydd ar gyfer y llwybrau Mach ac yn gweithio i gadarnhau bod y llwybrau i gyd yn reidio’n dda. 

Rydym hefyd yn gweithio i wella’r wefan er mwyn darparu’r wybodaeth orau i chi a sicrhau eich bod yn gallu gwneud y mwyaf o’ch amser yn y Dyfi.

Darllenwch fwy…

CYSYLLTU

Defnyddiwch y ffurflen os ydych chi am gysylltu â ni am unrhyw agwedd o’r busnes neu unrhyw beth sy’n ymwneud â llwybrau beicio mynydd yn Nyffryn Dyfi. Fel arall, mae croeso i chi anfon e-bost atom.

Darllenwch fwy…