Gwirfoddoli

DYDDIADAU PALU
P’run ai trwsio wedi difrod gan ddŵr neu ddraeniau yn dilyn gaeaf caled arall yn y Dyfi, torri’r llysdyfiant nôl sy’n chwim dyfu ar hyd y llwybrau yn y gwanwyn, neu adnewyddu gwely’r llwybr wedi blynyddoedd o reidio caled, mae wastad angen cynnal a chadw ar y llwybrau. Mae Beicio Mynydd Dyfi MTB yn trefnu dyddiau palu rheoliadd er mwyn cadarnhau fod y llwybrau yn barod i’w defnyddio. Mae dyddiau palu chwarterol i wneud cynhaliaeth cyffredinol o’r llwybrau a dwywaith y flwyddyn i wneud gwaith ar elfennau penodol o’r llwybrau.
Mae tri ddiwrnod palu wedi eu trefnu ar gyfer 2022 hyd yn hyn, sef 23ain o Ebrill, 3ydd o Fehefin a’r 24ain o Fedi: Bydd nhw yn dechrau am 9.30 a gorfen am 13.00.
Currently we have three dig days planned for 2022: 23rd April, 3rd June and 24th September. They will start at 9.30 and finish at 13.00.
I gofrestru ar gyfer ein dyddiau palu, cwblhewch y ffurflen wirfoddoli isod. Am ragor o wybodaeth am ddod yn ran o Griw Palu Beicio Mynydd Dyfi MTB, cysylltwch â’r Cydlynydd Cynhaliaeth: rik@beiciomynydddyfi.org.uk

SWYDDI AGORED
Swyddog Cyllid
Rydyn ni’n chwilio am rywun gyda profiad o gyfrifo neu lyfrifeg, ac yn delfrydol, profiad o gwblhau ffurflenni treth a chydymffurfio â Thŷ’r Cwmnïau. Er ein bod yn gwmni bach, mae hon dal yn rôl hynod bwysig, ond ni fydd gofyn i’r unigolyn fydd yn cyflawni’r gwaith fuddsoddi llawer o amser. Yn ogystal a chadarnau ein bod yn cydymffurfio â rheoliadau ariannol, bydd y rôl hefyd yn cynnwys gofalu am ariannu’r cwmni a’r cyfrif banc.
Cysylltwch â ni os allwch chi gyflawni’r rôl hwn.